1 Samuel 31:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd gwŷr Israel, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r dyffryn, a'r rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen, ffoi o wŷr Israel, a marw Saul a'i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoesant; a'r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i'r dyffryn, a'r tu draw i'r Iorddonen, yn clywed fod milwyr Israel wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw'n gadael eu trefi a ffoi. A dyma'r Philistiaid yn dod i fyw ynddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd yr Israeliaid oedd yr ochr draw i'r dyffryn a thros yr Iorddonen fod dynion Israel wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi marw, gadawsant y trefi a ffoi; yna daeth y Philistiaid a byw ynddynt.