1 Samuel 31:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a'i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod ar ôl y frwydr dyma'r Philistiaid yn dod i ddwyn oddi ar y cyrff meirw. A dyma nhw'n dod o hyd i Saul a'i dri mab yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ysbeilio'r lladdedigion, cawsant Saul a'i dri mab wedi syrthio ar Fynydd Gilboa.