1 Samuel 4:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Daeth gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel: a gwersyllasant gerllaw Ebeneser: a'r Philistiaid a wersyllasant yn Affec.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A byddai Samuel yn rhannu'r neges gydag Israel gyfan. Dyma Israel yn mynd i ryfel yn erbyn y Philistiaid. Roedden nhw'n gwersylla yn Ebeneser, tra roedd y Philistiaid yn gwersylla yn Affec.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gair Samuel yn air i Israel gyfan. Aeth Israel i ryfel yn erbyn y Philistiaid a gwersyllu ger Eben-eser, a'r Philistiaid yn gwersyllu yn Affec.