1 Samuel 4:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gennad a atebodd, ac a ddywedodd, Israel a ffodd o flaen y Philistiaid; a bu hefyd laddfa fawr ymysg y bobl; a'th ddau fab hefyd, Hoffni a Phinees, a fuant feirw, ac arch DUW a ddaliwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r negesydd yn ateb, “Mae Israel wedi ffoi o flaen y Philistiaid, ac mae llawer iawn wedi cael eu lladd. Mae dy ddau fab di, Hoffni a Phineas, wedi eu lladd, ac mae Arch Duw wedi cael ei chipio.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd y cennad, "Ffodd Israel o flaen y Philistiaid, a bu lladdfa fawr ymysg y bobl hefyd; y mae dy ddau fab, Hoffni a Phinees wedi marw, ac arch Duw wedi ei chymryd."