1 Samuel 4:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth arch cyfamod yr ARGLWYDD i'r gwersyll, holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddodd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD y gwersyll, dyma pawb yn bloeddio gweiddi mor uchel roedd fel petai'r ddaear yn crynu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gyrhaeddodd arch cyfamod yr ARGLWYDD i'r gwersyll, gwaeddodd yr Israeliaid i gyd bloedd uchel nes bod y ddaear yn datseinio.