1 Samuel 4:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu'r Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr ARGLWYDD a ddaethai i'r gwersyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd y Philistiaid y sŵn, dyma nhw'n holi, “Pam maen nhw'n bloeddio fel yna yng ngwersyll yr Hebreaid?” Yna dyma nhw'n sylweddoli fod Arch yr ARGLWYDD wedi dod i'r gwersyll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd y Philistiaid y floedd a gofyn, "Beth yw'r floedd fawr hon a glywir yng ngwersyll yr Hebreaid?" Wedi iddynt ddeall mai arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd wedi cyrraedd i'r gwersyll,