1 Samuel 5:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr anfonasant hwy arch DUW i Ecron. A phan ddaeth arch DUW i Ecron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, Dygasant atom ni o amgylch arch DUW Israel, i'n lladd ni a'n pobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n anfon Arch Duw ymlaen i Ecron. Ond pan gyrhaeddodd yno dechreuodd pobl Ecron brotestio, “Maen nhw wedi gyrru Arch Duw Israel aton ni i'n lladd ni a'n teuluoedd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonasant arch Duw i Ecron, ond pan gyrhaeddodd yno, cwynodd pobl Ecron, "Y maent wedi dod ag arch Duw Israel atom ni i'n lladd ni a'n teuluoedd."