1 Samuel 5:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi'r Philistiaid: ac a ddywedasant, Danfonwch ymaith arch DUW Israel, a dychweler hi adref; fel na laddo hi ni a'n pobl: canys dinistr angheuol oedd trwy'r holl ddinas; trom iawn oedd llaw DUW yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma nhw'n casglu llywodraethwyr trefi'r Philistiaid at ei gilydd eto, a dweud wrthyn nhw, “Anfonwch Arch Duw Israel yn ôl i'w lle ei hun, neu bydd e'n ein lladd ni a'n teuluoedd.” Roedd y dref gyfan mewn panig llwyr, am fod Duw yn eu taro nhw mor drwm.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly anfonasant i gasglu ynghyd holl arglwyddi'r Philistiaid a dweud, "Anfonwch arch Duw Israel yn l i'w lle ei hun, rhag iddi'n lladd ni a'n teuluoedd."