1 Samuel 5:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna pan godon nhw'n gynnar y bore wedyn roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb eto o flaen Arch Duw. Roedd ei ben a'i ddwy law wedi eu torri i ffwrdd, ac yn gorwedd wrth y drws. Dim ond corff Dagon oedd yn un darn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna codasant Dagon, a'i roi'n l yn ei le. Bore trannoeth, wedi iddynt godi, gwelsant Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, a phen a dwy law Dagon ar y trothwy wedi eu torri i ffwrdd, a dim ond corff Dagon ar l ganddo.