1 Samuel 5:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrwm fu llaw yr ARGLWYDD ar yr Asdodiaid; ac efe a'u distrywiodd hwynt, ac a'u trawodd hwynt, sef Asdod a'i therfynau, â chlwyf y marchogion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cosbodd yr ARGLWYDD bobl Ashdod yn drwm, ac achosi hafoc yno. Cafodd pobl Ashdod, a'r ardal o'i chwmpas, eu taro'n wael gyda chwyddau cas drostyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu llaw'r ARGLWYDD yn drwm ar yr Asdodiaid. Parodd arswyd ar Asdod a'i chyffiniau, a'u taro chornwydydd.