1 Samuel 5:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi'r Philistiaid atynt; ac a ddywedasant, Beth a wnawn ni i arch DUW Israel? A hwy a atebasant, Dyger arch DUW Israel o amgylch i Gath. A hwy a ddygasant arch DUW Israel oddi amgylch yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n casglu llywodraethwyr trefi'r Philistiaid at ei gilydd, a gofyn, “Be wnawn ni ag Arch Duw Israel?” A dyma nhw'n ateb, “Ei symud hi i Gath ”. Felly dyma nhw'n symud yr Arch yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt anfon a chasglu atynt holl arglwyddi'r Philistiaid, gofynasant, "Beth a wnawn ag arch Duw Israel?" Atebasant hwythau, "Aed arch Duw Israel draw i Gath." Felly aethant ag arch Duw Israel yno.