1 Samuel 6:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r buchod a aethant ar hyd y ffordd union i ffordd Bethsemes; ar hyd y briffordd yr aethant, dan gerdded a brefu, ac ni throesant tua'r llaw ddeau na thua'r aswy; ac arglwyddi'r Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r gwartheg yn mynd yn syth i gyfeiriad Beth-shemesh. Roedden nhw'n brefu wrth fynd, ond wnaethon nhw ddim troi oddi ar y ffordd o gwbl. Cerddodd llywodraethwyr y Philistiaid ar eu holau, nes cyrraedd cyrion Beth-shemesh.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cerddodd y buchod ar eu hunion ar y ffordd i gyfeiriad Beth-semes, gan frefu wrth fynd, ond yn cadw i'r un briffordd heb wyro i'r dde na'r chwith; a cherddodd arglwyddi'r Philistiaid ar eu hl hyd at derfyn Beth-semes.