1 Samuel 6:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a drawodd wŷr Bethsemes, am iddynt edrych yn arch yr ARGLWYDD, ie, trawodd o'r bobl ddengwr a thrigain a deng mil a deugain o wŷr. A'r bobl a alarasant, am i'r ARGLWYDD daro'r bobl â lladdfa fawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma rai o bobl Beth-shemesh yn cael eu taro gan yr ARGLWYDD, am eu bod nhw wedi edrych i mewn i Arch Duw. Buodd saith deg ohonyn nhw farw, ac roedd pobl Beth-shemesh yn galaru'n fawr am fod Duw wedi eu taro nhw mor galed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trawyd rhai o wu375?r Beth-semes am iddynt edrych i mewn i arch yr ARGLWYDD. Trawyd deg a thrigain ohonynt, a galarodd y bobl oherwydd bod yr ARGLWYDD wedi gwneud lladdfa mor fawr yn eu plith.