1 Samuel 6:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac edrychwch, os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid e, yna y cawn wybod nad ei law ef a'n trawodd ni; ond mai damwain oedd hyn i ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a gwylio. Os bydd hi'n mynd adre i gyfeiriad tref Beth-shemesh, byddwn yn gwybod mai Duw Israel wnaeth anfon yr haint ofnadwy yma arnon ni. Ond os na fydd hi'n mynd y ffordd honno, yna byddwn yn gwybod mai nid fe wnaeth ein taro ni, ac mai cyd-ddigwyddiad oedd y cwbl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cewch weld; os i fyny am Beth-semes i gyfeiriad ei chynefin, ef sydd wedi achosi'r drwg mawr hwn i ni; ond os nad, byddwn yn gwybod nad ei law ef a'n trawodd, ond mai cyd-ddigwyddiad oedd hyn."