1 Samuel 7:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oedd Samuel yn offrymu'r poethoffrwm, y Philistiaid a nesasant i ryfel yn erbyn Israel: a'r ARGLWYDD a daranodd â tharanau mawr yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnnw, ac a'u drylliodd hwynt, a lladdwyd hwynt o flaen Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y Philistiaid ar fin ymosod ar Israel wrth i Samuel gyflwyno'r offrwm. A'r foment honno dyma'r ARGLWYDD yn anfon anferth o storm daranau, wnaeth yrru'r Philistiaid i banig llwyr, a dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y diwrnod hwnnw, fel yr oedd Samuel yn offrymu'r poethoffrwm, a'r Philistiaid yn nesu i ymladd ag Israel, cododd yr ARGLWYDD storm daranau yn erbyn y Philistiaid a'u drysu, a gyrrwyd hwy ar ffo o flaen Israel.