1 Samuel 7:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dinasoedd, y rhai a ddygasai y Philistiaid oddi ar Israel, a roddwyd adref i Israel, o Ecron hyd Gath; ac Israel a ryddhaodd eu terfynau o law y Philistiaid: ac yr oedd heddwch rhwng Israel a'r Amoriaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd Israel y trefi roedd y Philistiaid wedi eu cymryd oddi arnyn nhw yn ôl, a'r tir o'u cwmpas nhw, o Ecron yn y gogledd i Gath yn y de. Roedd heddwch rhwng pobl Israel a'r Amoriaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Adferwyd i Israel y trefi yr oedd y Philistiaid wedi eu dwyn oddi arni, o Ecron hyd Gath; a rhyddhaodd Israel eu terfynau o afael y Philistiaid. Yr oedd heddwch hefyd rhwng Israel a'r Amoriaid.