1 Samuel 7:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch chwi at yr ARGLWYDD â'ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau dieithr o'ch mysg, ac Astaroth, a pharatowch eich calon at yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef yn unig; ac efe a'ch gwared chwi o law y Philistiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Samuel wrth bobl Israel, “Os ydych chi wir am droi yn ôl at Dduw â'ch holl galon, taflwch allan eich duwiau eraill, a'r delwau sydd gynnoch chi o'r dduwies Ashtart. Rhowch eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, a'i addoli e a neb arall. Wedyn bydd e'n eich achub chi oddi wrth y Philistiaid.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, "Os ydych yn dychwelyd at yr ARGLWYDD 'ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau estron a'r Astaroth o'ch mysg; rhowch eich meddwl ar yr ARGLWYDD, a'i addoli ef yn unig, ac fe'ch achub o law y Philistiaid."