1 Samuel 7:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna meibion Israel a fwriasant ymaith Baalim ac Astaroth, a'r ARGLWYDD yn unig a wasanaethasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma bobl Israel yn cael gwared â'r delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a dechrau addoli'r ARGLWYDD yn unig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bwriodd Israel ymaith y Baalim a'r Astaroth, ac addoli'r ARGLWYDD yn unig.