1 Samuel 7:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ymgasglasant i Mispa, ac a dynasant ddwfr, ac a'i tywalltasant gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a ddywedasant yno, Pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD. A Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedi iddyn nhw ddod at ei gilydd yn Mitspa, dyma nhw'n codi dŵr o'r ffynnon a'i dywallt ar lawr fel offrwm i Dduw. Wnaethon nhw ddim bwyta trwy'r dydd. “Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD,” medden nhw. (A Samuel oedd yn arwain pobl Israel yn Mitspa.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi iddynt ymgasglu i Mispa, a thynnu du373?r a'i arllwys gerbron yr ARGLWYDD, gwnaethant ympryd yno y diwrnod hwnnw a dweud, "Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD." Yn Mispa yr oedd Samuel yn barnu Israel.