1 Samuel 9:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau a'u hatebasant hwynt, ac a ddywedasant, Ydyw; wele efe o'th flaen; brysia yr awr hon; canys heddiw y daeth efe i'r ddinas; oherwydd aberth sydd heddiw gan y bobl yn yr uchelfa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ydy,” meddai'r merched, “yn syth o'ch blaen acw. Ond rhaid i chi frysio. Mae e newydd gyrraedd y dre am fod y bobl am gyflwyno aberth ar yr allor leol heddiw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ydyw," meddent, "acw'n syth o'ch blaen; brysiwch, y mae newydd gyrraedd y dref, oherwydd y mae gan y bobl aberth heddiw yn yr uchelfa.