1 Samuel 9:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan ddeloch gyntaf i'r ddinas, chwi a'i cewch ef, cyn ei fyned i fyny i'r uchelfa i fwyta; canys ni fwyty y bobl hyd oni ddelo efe, oherwydd efe a fendiga yr aberth; ar ôl hynny y bwyty y rhai a wahoddwyd: am hynny ewch i fyny; canys ynghylch y pryd hwn y cewch ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ewch i mewn i'r dre, byddwch yn ei ddal e cyn iddo fynd at yr allor i fwyta. Fydd y bobl ddim yn bwyta cyn iddo fe gyrraedd, am fod rhaid iddo fendithio'r aberth. Dim ond wedyn y bydd y rhai sydd wedi cael eu gwahodd yn bwyta. Os ewch chi nawr, byddwch chi'n dod o hyd iddo'n syth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os ewch i'r dref, fe'i daliwch cyn iddo fynd i'r uchelfa i fwyta; oherwydd ni fydd y bobl yn dechrau bwyta nes iddo gyrraedd, gan mai ef sy'n bendithio'r aberth cyn i'r gwahoddedigion fwyta. Ewch i fyny, ac fe'i cewch ar unwaith."