1 Samuel 9:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Samuel a atebodd Saul, ac a ddywedodd, Myfi yw y gweledydd: dos i fyny o'm blaen i'r uchelfa; canys bwytewch gyda myfi heddiw: a mi a'th ollyngaf y bore, ac a fynegaf i ti yr hyn oll y sydd yn dy galon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Fi ydy'r gweledydd,” meddai Samuel wrtho. “Dos o'm blaen at yr allor. Cewch chi'ch dau fwyta gyda mi heddiw, wedyn fory cei fynd ar dy ffordd ar ôl i mi ddweud am bopeth sy'n dy boeni di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Samuel, "Fi yw'r gweledydd; dos i fyny o'm blaen i'r uchelfa; cei fwyta gyda mi heddiw, a gollyngaf di ymaith yfory ar l dweud wrthyt bopeth sydd yn dy galon.