1 Samuel 9:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Saul a atebodd ac a ddywedodd, Onid mab Jemini ydwyf fi, o'r lleiaf o lwythau Israel? a'm teulu sydd leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin? a phaham y dywedi wrthyf y modd hyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Saul yn ateb, “Sut mae hynny'n bosib? I lwyth Benjamin dw i'n perthyn, y llwyth lleiaf yn Israel! Ac mae fy nheulu i yn un o deuluoedd mwyaf cyffredin Benjamin. Pam wyt ti'n dweud peth felly wrtho i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Saul, "Onid un o Benjamin wyf fi, o'r lleiaf o lwythau Israel? A'm tylwyth i yw'r distatlaf o holl dylwythau llwyth Benjamin. Pam, felly, yr wyt yn siarad fel hyn mi?"