1 Samuel 9:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r cog a gyfododd yr ysgwyddog, a'r hyn oedd arni, ac a'i gosododd gerbron Saul. A Samuel a ddywedodd, Wele yr hyn a adawyd; gosod ger dy fron, a bwyta: canys hyd y pryd hwn y cadwyd ef i ti, er pan ddywedais, Y bobl a wahoddais i. A bwytaodd Saul gyda Samuel y dydd hwnnw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r cogydd yn dod â darn uchaf y goes a'i osod o flaen Saul. Ac meddai Samuel, “Mae'r darn yna i ti — mae wedi ei gadw i ti. Bwyta fe, achos pan o'n i'n gwahodd pobl yma, dwedais fod hwn i gael ei gadw ar dy gyfer di.” Felly dyma Saul yn bwyta gyda Samuel y diwrnod hwnnw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dygodd y cogydd y glun a'r hyn oedd arni, a'i gosod gerbron Saul a dweud, "Dyma'r hyn a gadwyd ar dy gyfer; bwyta, oherwydd fe'i cadwyd iti ar gyfer yr amser penodedig, i'w fwyta gyda'r gwahoddedigion." Bwytaodd Saul y diwrnod hwnnw gyda Samuel.