1 Samuel 9:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a gyfodasant yn fore: ac ynghylch codiad y wawr, galwodd Samuel ar Saul i ben y tŷ, gan ddywedyd, Cyfod, fel y'th hebryngwyf ymaith. A Saul a gyfododd, ac efe a Samuel a aethant ill dau allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ben bore wedyn, pan oedd hi'n gwawrio, dyma Samuel yn galw ar Saul, oedd ar y to: “Cod, i mi dy anfon di ar dy ffordd.” Felly dyma Saul yn codi, a dyma fe a'i was yn mynd allan hefo Samuel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan dorrodd y wawr, galwodd Samuel ar Saul, ac yntau ar y to, a dweud, "Cod, imi gael dy anfon ymaith." Ac wedi i Saul godi, aeth y ddau allan, Samuel ac yntau.