1 Samuel 9:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt yn myned i waered i gwr eithaf y ddinas, Samuel a ddywedodd wrth Saul, Dywed wrth y llanc am fyned o'n blaen ni; (felly yr aeth efe;) ond saf di yr awr hon, a mynegaf i ti air DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaethon nhw i gyrion y dre, dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Dywed wrth dy was am fynd yn ei flaen. Dw i eisiau i ti aros i mi roi neges gan Dduw i ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt ddod i gwr y dref, dywedodd Samuel wrth Saul, "Dywed wrth y gwas am fynd o'n blaen, ac wedyn aros di ennyd, imi fynegi gair Duw iti."