1 Samuel 9:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac asynnod Cis, tad Saul, a gyfrgollasant: a dywedodd Cis wrth Saul ei fab, Cymer yn awr un o'r llanciau gyda thi, a chyfod, dos, cais yr asynnod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd rhai o asennod Cish, tad Saul, wedi mynd ar goll. A dyma Cish yn dweud wrth Saul, “Cymer un o'r gweision hefo ti, a dos i chwilio am yr asennod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth asennod Cis tad Saul ar goll, a dywedodd Cis wrth ei fab Saul, "Cymer un o'r gweision a dos i chwilio am yr asennod."