1 Thessalonians 1:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac y edrych am y Vap ef o’r nefoedd, yr hwn a gyvodes ef o veirw, ’sef Iesu yr hwn a’n gwared ni rac y digofeint ’sy ar ddyvot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac i ddisgwyl am Ei Fab o’r nefoedd, yr Hwn a gyfododd Efe o’r meirw, Iesu, yr hwn sydd yn ein gwaredu o’r digofaint sydd yn dyfod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac i ddisgwyl Ei Fab o’r nefoedd, yr Hwn a gyfododd Ef o blith y meirw, Iesu sydd yn ein gwaredu oddi wrth y llid sydd yn dyfod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o'r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe o feirw, sef Iesu, yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw hefyd yn sôn am y ffordd dych chi'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd Mab Duw yn dod i'r golwg eto o'r nefoedd. Ie, Iesu, yr un gafodd ei godi yn ôl yn fyw, ac sy'n ein hachub ni rhag cael ein cosbi pan fydd Duw yn barnu'r byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac i ddisgwyl ei Fab o'r nefoedd, y Mab a gyfododd ef oddi wrth y meirw, sef Iesu, yr un sydd yn ein gwaredu oddi wrth y digofaint sydd i ddod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac i ddysgwyl am ei Fab ef o'r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe oddiwrth y meirw, Iesu, yr hwn sydd yn ein gwaredu o'r digofaint sydd yn dyfod.