1 Thessalonians 1:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yn ddibaid, gan goffau eich grymiol ffydd, a’ ch diwyd gariat ac ymaros eich gobeith yn ein Arglwydd Iesu Christ rac bron Duw ’sef ein Tat,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan wneuthur coffa am danoch yn ein gweddïau, gan gofio yn ddibaid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, ger bron ein Duw a Thad;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys cofiwn yn ddibaid gerbron Duw a’n Tad eich gwaith ffydd, eich llafur cariad, a’ch dioddefgarwch yn y gobaith sydd yn ein Harglwydd Iesu Grist;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a'n Tad;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bob tro dŷn ni'n sôn amdanoch chi wrth ein Duw a'n Tad, dŷn ni'n cofio am y cwbl dych chi'n ei wneud am eich bod chi'n credu. Am y gwaith caled sy'n deillio o'ch cariad chi, a'ch gallu i ddal ati am fod eich gobaith yn sicr yn yr Arglwydd Iesu Grist.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a chofio'n ddi-baid gerbron ein Duw a'n Tad am weithgarwch eich ffydd, a llafur eich cariad, a'r dyfalbarhad sy'n tarddu o'ch gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan gofio yn ddibaid waith eich ffydd, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a'n Tâd;