1 Thessalonians 1:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ein Euangel ni ny bu yn‐gair yn vnic, eithr hefyt ym meðiant, ac yn yr Yspryt glan, ac yn‐ dilysrwydd mawr, megis y gwyddoch ba ryw vodd ydd oeddem yn eich plith er eich mwyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
na fu i’n Hefengyl ddyfod attoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn gallu, ac yn yr Yspryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr, fel y gwyddoch pa fath rai a fuom i chwi er eich mwyn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân a chydag argyhoeddiad llawn — a gwyddoch y fath ddynion a fuom ni i chwi er eich mwyn chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr; megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaethon ni â'n newyddion da atoch chi, nid dim ond siarad wnaethon ni. Roedd nerth yr Ysbryd Glân i'w weld, ac roedden ni'n hollol sicr fod ein neges ni'n wir. A dych chi'n gwybod hefyd sut roedden ni'n ymddwyn yn eich plith chi — roedden ni'n gwneud y cwbl er eich lles chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd nid ar air yn unig y daeth atoch yr Efengyl yr ydym ni yn ei phregethu, ond mewn nerth hefyd, ac yn yr Ysbryd Gln, a chydag argyhoeddiad mawr. Fe wyddoch chwithau hefyd pa fath rai oeddem ni yn eich plith, ac er eich mwyn chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
na ddaeth ein hefengyl ni attoch mewn ymadrodd yn unig, ond hefyd mewn gallu, ac yn yr Yspryd Glân, ac mewn llawn‐sicrwydd, — fel y gwyddoch pa fath rai a fuom yn eich plith er eich mwyn chwi.