1 Thessalonians 1:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chwi vuoch yn ddilynwyr i ni, ac ir Arglwydd, ac a dd erbyniesoch y gair yn‐gorthrymder mawr, y gyd a llawenyð gan yr Yspryt glan,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chwi a aethoch yn efelychwyr i ni ac i’r Arglwydd, wedi derbyn y Gair mewn gorthrymder lawer,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chwithau a aethoch i’n hefelychu ni a’r Arglwydd, trwy dderbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni, ac i'r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma chi'n derbyn y neges gyda'r brwdfrydedd mae'r Ysbryd Glân yn ei roi, er eich bod chi wedi gorfod dioddef am wneud hynny. Roeddech chi'n dilyn ein hesiampl ni, a'r Arglwydd Iesu ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethoch chwi yn efelychwyr ohonom ni ac o'r Arglwydd, gan ichwi dderbyn y gair mewn gorthrymder mawr, ynghyd llawenydd yr Ysbryd Gln.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chwi a ddaethoch yn efelychwyr o honom ni ac o'r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Yspryd Glân,