1 Thessalonians 1:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cā ys y wrth‐y‐chwi y soniawdd gair yr Arglwydd, nyd ym‐Macedonia ac in Achaia yn vnic: eithr: eich ffydd chvvi hefyt yr hon ’sy ar Dduw, aeth ar lled ym‐pdp ban, val na rait i ni ddywedyt dim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys oddiwrthych chwi y seiniodd Gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia ac Achaia, eithr ym mhob man eich ffydd tuag at Dduw a aeth allan, fel nad oes arnom raid i lefaru dim;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys oddi wrthych chwi y datseiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia ac Achaia, eithr ym mhobman yr aeth eich ffydd tuag at Dduw ar led fel nad oes raid i ni ddywedyd dim;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia, ac yn Achaia, ond ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw a aeth ar led; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn wir, dych chi wedi peri bod pobl sy'n byw'n llawer pellach na Macedonia ac Achaia wedi clywed neges yr Arglwydd. Mae pobl ym mhob man wedi dod i glywed sut daethoch chi i gredu yn Nuw. Does dim rhaid i ni ddweud dim byd am y peth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canys oddi wrthych chwi yr atseiniodd gair yr Arglwydd, ac nid ym Macedonia ac Achaia yn unig; y mae eich ffydd chwi yn Nuw wedi mynd ar led ym mhob man, fel nad oes angen i ni ddweud dim.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys oddiwrthych chwi y seiniwyd allan Air yr Arglwydd, nid yn unig yn Macedonia ac Achaia, ond ym mhob man y mae eich ffydd tuag at Dduw wedi ymledaenu, fel nad rhaid i ni ddywedyd dim;