1 Thessalonians 1:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yntwy a venagant am danoch pa ryw fforddliat y mewn y gawsam atoch, a’ pha wedd yr ymchwelesoch at Dduw y wrth ddelwae, i wasanaethu y byw a’r gwir Dduw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys hwy eu hunain sy’n mynegi am danom ni pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom attoch, a pha fodd y troisoch at Dduw oddiwrth yr eulunod i wasanaethu Duw byw a gwir,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys edrydd pobl ohonynt eu hunain amdanom ni, y fath ddyfodiad a gawsom i’ch plith, a’r modd y troesoch at Dduw oddi wrth yr eilunod i wasanaethu Duw byw a gwirioneddol,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y maent hwy yn mynegi amdanom ni, pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni atoch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu'r bywiol a'r gwir Dduw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pobl yn siarad am y fath groeso gawson ni gynnoch chi. Maen nhw'n sôn amdanoch chi'n troi cefn ar eilun-dduwiau a dod i addoli a gwasanaethu'r Duw byw ei hun — y Duw go iawn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae pobl ohonynt eu hunain yn sn amdanom, y fath dderbyniad a gawsom i'ch plith, a'r modd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu'r gwir Dduw byw,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys hwy eu hunain sydd yn mynegi am danom, y fath ddyfodiad i mewn a gawsom ni attoch chwi, a pha fodd y troisoch at Dduw oddiwrth yr eilunod, i wasanaethu y bywiol a'r gwirioneddol Dduw,