1 Thessalonians 2:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Testion ydy chwi, a’ Duw hefyt, mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, ac mor ddiargywedd yr ymddugesam yn eich plith yr ei ’sy yn credu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Chwychwi ydych dystion, a Duw hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a difeius yr ymddygasom tuag attoch chwi y sy’n credu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Tystion ydych chwi a Duw mor sanctaidd a chyfiawn a difeius yr ymddygasom tuag atoch chwi sy’n credu,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tystion ydych chwi, a Duw hefyd, mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, a diargyhoedd, yr ymddygasom yn eich mysg chwi y rhai ydych yn credu:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n dystion, ac mae Duw'n dyst hefyd, ein bod ni wedi bod yn ddidwyll, yn deg a di-fai yn y ffordd wnaethon ni eich trin chi ddaeth i gredu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych chwi'n dystion, a Duw yn dyst hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a di-fai y bu ein hymddygiad tuag atoch chwi sy'n credu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwychwi ydych dystion, a Duw hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a difeius y buom yn eich golwg chwi y rhai ydych yn credu: