1 Thessalonians 2:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ar ywch rodio yn deilwng i Dduw, ’rhwn ath galwoð y’w deyrnas a’ i g ogoniant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan eich cynghori, a’ch diddanu, a thystiolaethu, fel y rhodiech yn deilwng i Dduw, yr Hwn sydd yn eich galw i’w deyrnas Ei hun a gogoniant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yn eich annog a’ch calonogi a’ch tynghedu i rodio’n deilwng o’r Duw a’ch galwodd i’w deyrnas Ei Hun a’i ogoniant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn ymbil, ar rodio ohonoch yn deilwng i Dduw, yr hwn a'ch galwodd chwi i'w deyrnas a'i ogoniant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
yn eich calonogi chi a'ch cysuro chi a'ch annog chi i fyw fel mae Duw am i chi fyw. Mae e wedi'ch galw chi i fyw dan ei deyrnasiad e, ac i rannu ei ysblander.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan apelio atoch, trwy eich annog a'ch rhybuddio i fyw yn deilwng o'r Duw sydd yn eich galw i'w deyrnas a'i ogoniant ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan eich cynghori a'ch calonogi a'ch tynghedu i rodio yn deilwng o Dduw, yr hwn sydd yn eich galw i'w deyrnas a'i ogoniant.