1 Thessalonians 2:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit hyn hefyt y diolchwn y Dduw yn ddibait, am’ywch pan dd erbyniesoch y genym g air pregeth D d uw, na’s d erbyniesoch mal gair dyn, eithyr val y mae yn ddilys yn ’air Duw, yr hwn hefyt ’sy yn gweithio ynoch y ’sawl a credant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac o achos hyn yr ydym ni hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, o herwydd wedi derbyn o honoch y gair a glywsoch genym, sef Gair Duw, derbyniasoch ef nid megis gair dynion, eithr (fel y mae yn wir) megis Gair Duw, yr hwn sydd hefyd yn gweithio ynoch chwi y sy’n credu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hyn, hefyd, diolchwn yn ddibaid i Dduw am i chwi, pan dderbyniasoch air cenadwri Duw oddi wrthym ni, ei dderbyn, nid fel gair dynion, eithr — yr hyn yw yn ddilys — fel gair Duw a weithia yn effeithiol ynoch chwi y credinwyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddi-baid, oherwydd i chwi, pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch gennym ni, ei dderbyn ef nid fel gair dyn, eithr fel y mae yn wir, yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw eich bod chi wedi derbyn y neges roedden ni'n ei chyhoeddi am beth oedd hi go iawn — neges gan Dduw, dim syniadau dynol. Ac mae'n amlwg fod Duw ar waith yn eich bywydau chi sy'n credu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydym ni'n diolch i Dduw yn ddi-baid ar gyfrif hyn hefyd: eich bod chwi, wrth dderbyn gair Duw fel y clywsoch ef gennym ni, wedi ei groesawu, nid fel gair dynol ond fel yr hyn ydyw mewn gwirionedd, sef gair Duw, sydd hefyd ar waith ynoch chwi sy'n gredinwyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac oblegyd hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, o herwydd i chwi, pan dderbyniasoch y gair a glywsoch, Gair Duw, ei roesawu nid fel gair dynion, eithr, (fel y mae yn wir), yn air Duw, yr hwn sydd yn nerthol‐weithio ynoch chwi, y credinwyr;