1 Thessalonians 2:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys vroder, chvvi aethoch yn ddilynieit y Eccles Duw, yr ei yn Iudaia ynt in‐Christ Iesu, can y chwy hefyt ddyoddef yr vnryw betheu gan wyr‐eich‐gwlad, ac wyntwy gan yr Iuddaeon,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys chwychwi a aethoch yn efelychwyr, frodyr, i eglwysi Duw y sydd yn Iwdea yng Nghrist Iesu; canys yr un pethau a ddioddefasoch chwi hefyd gan eich cyd-genedl,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys aethoch chwi, frodyr, i efelychu eglwysi Duw yng Nghrist Iesu sydd yn Iwdea; oblegid dioddefasoch chwithau hefyd ar law eich cyd-genedl yn yr un modd â hwythau ar law yr Iddewon,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys chwychwi, frodyr, a wnaethpwyd yn ddilynwyr i eglwysi Duw, y rhai yn Jwdea sydd yng Nghrist Iesu; oblegid chwithau a ddioddefasoch y pethau hyn gan eich cyd-genedl, megis hwythau gan yr Iddewon:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau, mae'r un peth wedi digwydd i chi ag a ddigwyddodd i eglwysi Duw yn Jwdea sy'n gwasanaethu'r Meseia Iesu. Mae eich pobl eich hunain wedi gwneud i chi ddioddef yn union fel gwnaeth yr arweinwyr Iddewig iddyn nhw ddioddef.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd daethoch chwi, gyfeillion, i efelychu eglwysi Duw yng Nghrist Iesu sydd yn Jwdea, oherwydd yr ydych chwi wedi dioddef yr un pethau yn union oddi ar law eich cydwladwyr ag y maent hwythau oddi ar law yr Iddewon,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys chwychwi a ddaethoch i fod yn efelychwyr, frodyr, o eglwysi Duw, y rhai sydd yn Judea yng Nghrist Iesu, canys chwi hefyd a ddyoddefasoch yr un pethau gan eich cyd‐wladwyr eich hunain, megys hwythau hefyd gan yr Iuddewon;