1 Thessalonians 2:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac yn ein gohardd i precethu ir Genetloedd, val yr iachëid hwy, y gyflawny eu pechotae yn ’oystatawl: can ys digofein Duvv a ddeuth arnyn, yd yr eithav.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn gwarafun i ni lefaru wrth y cenhedloedd fel yr achubid hwy, i gyflawni eu pechodau eu hunain yn wastadol; ac arnynt y daeth digofaint Duw hyd yr eithaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
trwy warafun inni bregethu i’r cenhedloedd i’w hachub; nes cyflawni ohonynt yn wastadol fesur eu pechodau. Eithr y digofaint a ddaeth arnynt hyd yr eithaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan warafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd, fel yr iacheid hwy, i gyflawni eu pechodau hwynt yn wastadol: canys digofaint Duw a ddaeth arnynt hyd yr eithaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
am eu bod nhw'n ceisio ein rhwystro ni rhag cyhoeddi'r newyddion da er mwyn i bobl o genhedloedd eraill gael eu hachub. Maen nhw'n pentyrru eu pechodau yn ddiddiwedd wrth ymddwyn fel yma. Ond mae cosb Duw'n mynd i'w dal nhw yn y diwedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan eu bod yn ein rhwystro ni rhag llefaru i'r Cenhedloedd er mwyn iddynt gael eu hachub. Felly y maent bob amser yn cyflenwi mesur eu pechodau. Ond y mae'r digofaint wedi dod arnynt o'r diwedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn gwarafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd fel yr achubid hwy, fel i lanw i fyny fesur eu pechodau yn wastadol: ond y mae y Digofaint wedi eu gorddiwes o'r diwedd.