1 Thessalonians 2:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys vroder, darvot ein gwneuthur yn ymddifaid am danoch dros ychydic amser, yn‐golwc, ac nyd yn‐calon, mwy astud vuam y geisio gweled eich wynep, gan vawr ddamuned.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A ninnau, frodyr, wedi ein hamddifadu o honoch am ennyd awr, mewn gwyneb, nid mewn calon, a fuom fwy dros ben o astud i weled eich gwyneb, gydag awydd mawr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A ninnau, frodyr, wedi ein gwahanu oddi wrthych dros ennyd awr, o ran golwg ac nid o ran calon, a fuom mewn hiraeth mawr yn taer ddymuno gweled eich wyneb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ninnau, frodyr, wedi ein gwneuthur yn amddifaid amdanoch dros ennyd awr, yng ngolwg, nid yng nghalon, a fuom fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau, yn fuan iawn ar ôl i ni gael ein gwahanu oddi wrthoch chi (dim ond yn gorfforol — achos roeddech chi'n dal ar ein meddyliau ni), roedden ni'n hiraethu am gael eich gweld chi eto. Roedden ni'n benderfynol o ddod yn ôl i'ch gweld chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oeddem ni, gyfeillion, wedi ein gwneud yn amddifad, o'ch colli chwi dros ychydig amser, o ran golwg ond nid o ran y galon, aethom yn fwy eiddgar, ac yn angerddol ein dymuniad am eich gweld.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A ninnau, frodyr, wedi ein hamddifadu o honoch am ennyd awr, yng ngolwg, nid yng nghalon, oeddem o lawer yn fwy astud i weled eich wyneb, gydag awydd mawr;