1 Thessalonians 2:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr val ydd oeddem yn gymradwy gan Dduw, val yr ymddiriedit y ni am yr Euangel, velly ydd ym yn ymadrodd, nyd val’rei a rengant bodd y ddynion, any d y Dduw, yr hwn a braw ein calonae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr fel y’n cymmeradwywyd gan Dduw i ymddiried i ni am yr Efengyl, felly yr ydym yn llefaru, nid fel yn rhyngu bodd i ddynion, eithr i Dduw, yr Hwn sydd yn profi ein calonnau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr, fel rhai a gymeradwywyd gan Dduw i ymddiried iddynt am yr efengyl, felly y llefarwn, nid i foddio dynion, ond y Duw a brawf ein calonnau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr megis y'n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na, fel arall yn hollol! Dŷn ni'n cyhoeddi'r neges am fod Duw wedi'n trystio ni gyda'r newyddion da. Dim ceisio plesio pobl dŷn ni'n ei wneud, ond ceisio plesio Duw. Mae e'n gwybod beth sy'n ein calonnau ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn hytrach, fel y cawsom ein profi'n gymeradwy gan Dduw i gael ymddiried yr Efengyl inni, yr ydym yn llefaru fel rhai sy'n boddhau, nid meidrolion ond Duw, yr hwn sy'n profi ein calonnau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr megys yr ydym wedi ein cymmeradwyo gan Dduw i gael ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru, nid fel yn rhyngu bodd i ddynion, eithr i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau.