1 Thessalonians 2:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chwaith nyd arveresam erioed ac ymadrodd gweiniaithus val y gwyddoch, nac echlusur i gupydd d ot, Duw yn test.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys ni fuom un amser mewn ymadrodd gwenhieithus, fel y gwyddoch; nac mewn rhith cybydd-dod, Duw sydd dyst;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys ni chaed ni un amser a chennym ymadrodd gweniaith, fel y gwyddoch, na than gochl hunan-gais — Duw yn dyst;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n gwybod ein bod ni ddim wedi ceisio'ch seboni chi. A doedden ni ddim yn ceisio dwyn eich arian chi chwaith — mae Duw'n dyst i hynny!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd, fel y gwyddoch, ni buom un amser yn arfer geiriau gweniaith, na chwaith ffalster i gelu trachwant fel y mae Duw'n dyst.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys ni ddaethom un amser mewn ymadrodd gweinieithus, fel y gwyddoch; nac mewn gorchudd cybydd‐dod, Duw sydd dyst;