1 Thessalonians 2:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny cheisiasam voliant gan ðynion, na chan y chwi, na chan eraill, pan allesem vot yn bwys, val Apostolion Christ:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nac yn ceisio gogoniant gan ddynion, na chenych chwi na chan eraill; a ni yn gallu bod yn bwys arnoch, megis apostolion Crist;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac ni cheisiasom glod gan ddynion, na chennych chwi na chan arall, er y gallem wasgu arnoch fel apostolion Crist;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill; lle y gallasem bwyso arnoch, fel apostolion Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedden ni ddim yn chwilio am ganmoliaeth gan bobl — gynnoch chi na neb arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac nid oeddem yn ceisio gogoniant gan bobl, gennych chwi na neb arall, er y gallasem, fel apostolion Crist, fod yn ddynion o bwys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nac yn ceisio gogoniant gan ddynion, nac oddiwrthych chwi, nac oddiwrth eraill; a ni yn gallu bod o bwys fel Apostolion Crist.