1 Thessalonians 2:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mal hyn can hoffed ywch genym, rhwyð wyllysio yð oeðē gyfranu y‐chwy, ny d yn vnic Euangel D d uw, anyd hefyt ein enedieu ein vnain, can ys ych bot yn anwyl genym.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
felly gan eich hoffi, boddlawn oeddym i gyfrannu i chwi nid yn unig Efengyl Dduw, eithr hefyd ein heneidiau ein hunain, am mai anwyl oeddych genym.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
felly y dymunem, gan gymaint ein serch tuag atoch, gyfrannu i chwi nid yn unig efengyl Duw, eithr hyd yn oed ein bywyd, oblegid daethoch yn annwyl gennym.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod yn annwyl gennym.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gan ein bod ni'n eich caru chi gymaint, roedden ni'n barod i roi'n bywydau drosoch chi yn ogystal â rhannu newyddion da Duw gyda chi. Roeddech chi mor annwyl â hynny yn ein golwg ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, yn ein hoffter ohonoch, yr oedd yn dda gennym gyfrannu i chwi, nid yn unig Efengyl Duw, ond nyni ein hunain hefyd, gan i chwi ddod yn annwyl gennym.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
felly gan ymserchu ynoch, boddlawn fuom i gyfrannu i chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond hefyd ein heneidiau ein hunain, oblegyd eich bod yn anwyl i ni.