1 Thessalonians 2:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys cof genych vroder, ein llavur a’n poen: can ys gweithiem ddydd a’ nos, rac pwyso ar yr vn o hanoch, ac a precethē y chwi Euāgel D d uw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys cof yw genych, frodyr, ein llafur a’n lludded: gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch, pregethasom i chwi Efengyl Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys cof gennych, frodyr, am ein llafur a’n lludded: gan weithio nos a dydd rhag pwyso ohonom ar neb ohonoch, pregethasom i chwi efengyl Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys cof yw gennych, frodyr, ein llafur a'n lludded ni: canys gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch, ni a bregethasom i chwi efengyl Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n siŵr o fod yn cofio mor galed y buon ni'n gweithio pan oedden ni acw. Buon ni wrthi'n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i'n cynnal ni tra roedden ni'n pregethu newyddion da Duw i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr ydych yn cofio, gyfeillion, am ein llafur a'n lludded; yr oeddem yn gweithio nos a dydd, rhag bod yn faich ar neb ohonoch, wrth bregethu Efengyl Duw i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys côf yw gennych, frodyr, ein llafur a'n trafferth; gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch, ni a gyhoeddasom i chwi efengyl Duw.