1 Thessalonians 3:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AM hyny can na allem ym attal a vei hwy, ys tybiesam vod yn oreu y ni aros yn Athen ein vnain,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Am hyny heb ymattal yn hwy, bu foddlawn genym ein gadael yn Athen, yn unig;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A ni, gan hynny, yn methu ag ymatal yn hwy, penderfynasom aros ar ôl yn Athen wrthym ein hunain,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doeddwn i ddim yn gallu diodde'r disgwyl dim mwy. Dyma ni'n penderfynu anfon Timotheus atoch chi, ac aros ein hunain yn Athen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, pan na allem ymgynnal yn hwy, buom yn fodlon aros yn Athen ar ein pen ein hunain,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny, gan na allem ymattal yn hwy, bu foddlawn gennym gael ein gadael ar ol yn unig yn Athen,