1 Thessalonians 3:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
nos a’ dydd yn tra gweddiaw ar weled o hanam eich wynep, a c h yflawny y sydd yn eisieu ich ffydd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan weddïo, nos a dydd, tros bob mesur, am weled eich gwyneb chwi, a pherffeithio diffygion eich ffydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys yn angerddol yr erfyniwn nos a dydd am weled eich wyneb, a chwblhau yr hyn sydd yn ôl yn eich ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan weddïo mwy na mwy, nos a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ddydd a nos, dŷn ni'n gweddïo'n wirioneddol daer y cawn ni gyfle i ddod i'ch gweld chi eto, i ddysgu mwy i chi am sut mae'r rhai sy'n credu i fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydym yn deisyf yn angerddol, nos a dydd, am gael gweld eich wyneb a chyflenwi diffygion eich ffydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddeisyfu nos a dydd, tuhwnt i bob mesur, i weled eich wyneb chwi, a chyflenwi diffygion eich ffydd?