1 Thessalonians 3:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
er goystatau eich calonae yn ddigwl iedic yn sancteidd geyr bron Duw ’sef ein Tad, yn‐ d yuodiat ein Arglwyd Iesu Christ y gyd ai oll Sainct æ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
er mwyn sefydlu eich calonnau chwi yn ddifeius mewn sancteiddrwydd ger bron Duw a’n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda’i holl saint.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y cadarnhaer eich calonnau i’w gwneuthur yn ddifeius mewn sancteiddrwydd gerbron ein Duw a’n Tad yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda’i saint oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a'n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda'i holl saint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni eisiau iddo eich gwneud chi'n gryf. Wedyn byddwch yn ddi-fai ac yn sanctaidd o flaen ein Duw a'n Tad pan fydd ein Harglwydd Iesu'n dod yn ôl gyda'i angylion, a gyda'r holl bobl sy'n perthyn iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i gadarnhau eich calonnau, fel y byddwch yn ddi-fai mewn sanc-teiddrwydd gerbron ein Duw a'n Tad yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda'i holl saint! Amen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y sefydlo eich calonnau chwi yn ddifeius mewn sancteiddrwydd gerbron ein Duw a'n Tâd, yn Nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda'i holl saint.