1 Thessalonians 3:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
val na chynnyrfyt neb o bleit y gorthrymderae hyn: can ys chvvichvvi ychunain a wyddoch, ein darparu ni y hynn y.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nad ysgydwer neb gan y gorthrymderau hyn, canys chwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel na lithier neb ohonoch yn y blinderau hyn. Gwyddoch chwi eich hunain mai hynny yw ein rhan;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y'n gosodwyd ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
rhag i'r treialon dych chi'n mynd trwyddyn nhw eich gwneud chi'n ansicr. Ac eto dych chi'n gwybod yn iawn fod rhaid i ni sy'n credu wynebu treialon o'r fath.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
rhag i neb eich siglo yn y gorthrymderau hyn. Oherwydd fe wyddoch eich hunain mai i hyn yr arfaethwyd ni;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel nad ysgydwer neb yn y gorthrymderau hyn, canys chwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y'n gosodwyd ni;