1 Thessalonians 3:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Sef o bleit hyn, pryd na allwn ymattal yn hwy, ys auvonais ef y ym wybot y wrth eich ffydd, rrac darvot ir temptiwr eich temptio mewn neb ryw vodd, a’ myned o ein gwaith yn wac.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd hyn myfi hefyd, heb ymattal yn hwy, a ddanfonais er mwyn gwybod eich ffydd, rhag mewn modd yn y byd ddarfod i’r temtiwr eich temtio, ac yn ofer yr aethai ein llafur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A minnau, oblegid hyn, heb fedru ymatal yn hwy, a anfonais i wybod am eich ffydd, rhag darfod i’r Temtiwr eich temtio ac i’n llafur fynd yn ofer.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd hyn, minnau, heb allu ymatal yn hwy, a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi; rhag darfod i'r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam allwn i ddim dioddef disgwyl mwy. Roedd rhaid i mi anfon Timotheus i weld a oeddech chi'n dal i sefyll yn gadarn. Beth petai'r temtiwr wedi llwyddo i'ch baglu chi rywsut, a bod ein gwaith ni i gyd wedi ei wastraffu?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, gan na allwn ymgynnal yn hwy, mi anfonais i gael gwybod am eich ffydd chwi, rhag ofn i'r temtiwr rywsut fod wedi eich temtio, ac i'n llafur ni fynd yn ofer.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd hyn, myfi hefyd, heb ymattal yn hwy, a ddanfonais er mwyn gwybod eich ffydd, rhag ddarfod i'r Temtiwr mewn unrhyw fodd eich temtio, a myned ein llafur ni yn ofer.