1 Thessalonians 3:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr yn hwyr yr owhon gwedy dyvot Timoth e us odd ywrthych atom, a’ menegi y ni ddaeoni am y ch ffydd a’ch cariat, a’ch bod yn cadw cof da am danam yn ’oystad ol, gan ðeisyf u cahel ein gweled, vegis ac ydd ym ni nheu am danoch chwi theu,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond wedi dyfod o Timothëus yn awr attom oddiwrthych, a mynegi i ni newyddion da am eich ffydd a’ch cariad, a bod genych goffa da am danom yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled, fel yr ydym ninnau hefyd am danoch chwi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond a Thimotheus newydd ddyfod atom oddi wrthych chwi, yn dwyn newyddion da am eich ffydd a’ch cariad, a’ch bod yn coffau yn garedig amdanom yn wastadol, ac yn hiraethu am ein gweled, fel yr hiraethwn ninnau am eich gweled chwi,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr awron, wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a'ch cariad, a bod gennych goffa da amdanom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym ninnau am eich gweled chwithau;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae Timotheus newydd gyrraedd yn ôl, ac wedi rhannu'r newyddion da am eich ffydd chi a'ch cariad chi! Mae'n dweud bod gynnoch chi atgofion melys amdanon ni, a bod gynnoch chi gymaint o hiraeth amdanon ni ag sydd gynnon ni amdanoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae Timotheus newydd ddod atom oddi wrthych, a rhoi newyddion da inni ynglu375?n 'ch ffydd a'ch cariad chwi. Y mae'n dweud fod gennych goffa da amdanom bob amser, a'ch bod yn hiraethu cymaint am ein gweld ni ag yr ydym ninnau am eich gweld chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr wedi yn awr ddyfod o Timotheus attom oddiwrthych, a dwyn i ni newyddion da am eich ffydd a'ch cariad, a bod gennych goffa da am danom yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megys ninnau hefyd chwithau;